Fy wythnos yn rhoi rhywbeth yn ôl i Eryri

gan Matilda Pears-Cooper

Fe wnaeth Wythnos Gwirfoddolwyr roi cyfle i mi gael amrywiaeth o brofiadau gwahanol.   Fe wnes i greu meinciau gwaith pren, cynorthwyo i gynnal a chadw llwybrau troed a ffensys, clirio rhododendron ymledol, a chasglu ysbwriel ar lethrau’r Wyddfa.   Fe wnes i dreulio wythnos anhygoel yn mwynhau’r heulwen ac yn dysgu sgiliau newydd a chael profiadau gwerthfawr gyda gwirfoddolwyr a phartneriaid Cymdeithas Eryri.

Sut wnes i elwa?

Fe wnes i ddysgu cymaint yn ystod yr wythnos, yn amrywio o ddefnyddio offer syml megis bwyelli, tocwyr a llifiau i ddatblygu gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r holl waith caled sy’n digwydd er mwyn cynnal a chadw’r llwybrau troed o amgylch Eryri.

Mae rhai o uchafbwyntiau’r wythnos yn cynnwys:

  • roedd gallu helpu i adeiladu mainc gyfan o’r dechrau mewn ychydig oriau yn deimlad gwych a boddhaus iawn, yn enwedig o wybod y caiff y meinciau eu defnyddio i helpu i gynnal safle prydferth yr Ymddiriedolaeth Coedlannau yn Llennyrch yn y dyfodol agos.
  • cael mwynhau taith gerdded i fyny i Gwm Bychan i’r man uchaf ble ceir golygfa glir i gyfeiriad Pedol yr Wyddfa.
  • gwylio un o wirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Coedlannau yn modrwyo cywion gwybedogion birth fel rhan o ymdrechion lleol i amddiffyn y rhywogaeth hon.

Yn ystod y diwrnod casglu sbwriel, fe wnaethom ni gasglu cymaint o sbwriel ag y gallem ni ar lethrau’r llynnoedd ar Lwybr y Mwynwyr, sy’n llwybr hynod o boblogaidd.  Gobeithio y gwnaiff y canlyniadau hyn bara, ond o gofio fod tymor prysur yr haf ar ein gwarthau, yn anffodus, mae’n debyg y bydd angen gwneud rhagor o waith casglu sbwriel.  Roedd ein gwaith yn clirio Rhododendron yng Nghoed Abergwynant yn gam pwysig yn yr ymdrechion i atal y rhywogaeth hon rhag meddiannu’r dirwedd yn llwyr a rhoi cyfle i rywogaethau cynhenid ffynnu, a gobeithio, sicrhau mwy o fioamrywiaeth.

Enillion personol

Mae’n deimlad gwerth chweil gwybod fod y gwaith a wnaed gennym ni wedi effeithio ychydig ar y Parc Cenedlaethol ac y gwnaethom ni gyfrannu tuag at gynnal a chadw’r Parc.   Mae’n wych gwybod hefyd y byddwn ni’n gallu ymweld â’r meini y gwnaethom ni helpu i’w gosod ar y llwybr troed am ddegawdau lawer!

Mae cwblhau’r uned sgiliau cadwraeth ymarferol wedi fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol er mwyn cael gyrfa ym maes cadwraeth, yn cynnwys defnyddio offer a diogelwch offer, ac asesu risgiau nifer o dasgau.   Mae hyn wedi fy nghynorthwyo i allu defnyddio’r offer hyn yn fwy hyderus, ac rwy’n gwybod y bydd hyn yn werthfawr yn y dyfodol.  Mae hyn hefyd yn ategu fy nghwrs gradd mewn Gwyddor yr Amgylchedd trwy ganiatáu i mi ddysgu o fy mhrofiad ymarferol.

Ar y cyfan, roedd yn wythnos wych, ac roedd yn dda gallu cwrdd â phobl newydd a dysgu am y gwahanol sefydliadau sy’n gyfrifol am gynnal a chadw ardal mor hardd a phwysig.

Diolch i’r cyrff sy’n ein hariannu, sef Postcode Local Trust, elusen sy’n rhoi grantiau sy’n cael ei ariannu’n llwyr gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery, Cronfa Partneriaeth Eryri a Sefydliad Garfield Weston.

Comments are closed.