Rhodd o £500: Diolch i Marathon Eryri ac i ein gwirfoddolwyr

snowdonia marathon runner

Diolch i Marathon Eryri a diolch i’r holl wirfoddolwyr a dreuliodd y diwrnod yn yr orsaf bwydo Marathon Eryri ym Meddgelert ar 25 Hydref y llynedd. Mae eich ymdrech  wedi  cynhyrchu rhodd o £500.

Yr oedd y gwirfoddolwyr yn brysur yn dosbarthu diodydd, geliau a bwydydd ynni uchel eraill, ac yn clirio cwpanau a phecynnau gel, heb sôn am annog y rhedwyr yn eu blaenau.

Bob blwyddyn mae’r Marathon Eryri yn cefnogi’r gymuned leol gan roi miloedd o bunnau at achosion da lleol. Byddwn yn cynnal yr orsaf bwyd ym Meddgelert ym mis Hydref 2015, hefyd. Byddwch yn rhan o’r digwyddiad cyffrous hwn a dewch draw i helpu!

Cysylltwch â info@snowdonia-society.org.uk gan cyfeirio at  ‘Marathon Eryri 2015’

Mae rhagor o wybodaeth am Marathon Eryri fan hyn.

Comments are closed.