Llwyddiant arfordir i arfordir

Mae gwirfoddolwraig Gymdeithas Eryri, Glynis Archer, wedi llwyddo cerdded pob 197 milltir o’r llwybr Arfordir i Arfordir ac mae awydd arni ddiolch i bawb sy wedi ei noddi hi. Hyd yn hyn mae hi wedi codi £640 at ei dwy elusen a ddewiswyd, sef Cymdeithas Eryri a Bywyd Gwyllt Glaslyn, fydd yn rhannu’r cyfanswm. Rhowch hwb i’r cyfanswm trwy wneud cyfraniad nawr!

Annwyl Ffrindiau,

Cyrhaeddais Fae Robin Hood ar yr 16eg Ebrill am 3 o’r gloch y pnawn, a’r Her wedi’i chyflawni. Am deimlad bendigedig! Teflais y garreg fechan a godais o Fôr Iwerddon yn St Bees i Fôr y Gogledd, yn unol â thraddodiad Wainwright. Aethom ati wedyn i lofnodi’r Gofrestr ‘Coast to Coast’ ym Mar Wainwright yng Ngwesty’r Bae, a chodasom wydryn i ddathlu ein gorchest.

Er iddi fod yn gryn her, bu’n brofiad arbennig iawn ac fe erys yn hir yn fy nghof.

Diolch o galon i bawb a roddodd rodd tuag at yr elusennau a ddewisais, neu sydd wedi addo gwneud hynny. Roedd eich cefnogaeth a’ch nawdd yn hwb i mi ddal ati nes cyflawni’r her.

Pob dymuniad da i chi i gyd.

Glynis

Comments are closed.