Anghofiwch y fflip-flops, mae hyn yn ddifrifol

Anghofiwch y fflip-flops, mae hyn yn ddifrifol

Bydd llawer ohonoch wedi gweld hanes Eryri ar y cyfryngau yn ystod cyfnod o bwysau eithriadol. Mae ein Cyfarwyddwr wedi bod yn brysur yn siarad ar y teledu a radio a gyda gohebwyr papur newydd ledled y DU. Yn aml mae diddordeb y cyfryngau’n cychwyn gyda stori am bobl yn dringo’r Wyddfa mewn fflip-fflops neu’n ciwio am 45 munud i dynnu hunlun ar y copa. Ond rydym wedi gwneud pob ymdrech i geisio mynd y tu hwnt i’r ffeithiau arwynebol ac at gwestiynau mwy sylweddol; beth yw’r hanfodion ar gyfer mwynhau’r awyr agored mewn modd cyfrifol, a sut fyddai twristiaeth gwir gynaliadwy yn edrych yn Eryri?

Drwy gyfrwng partneriaethau allweddol, mae gan Gymdeithas Eryri ran fawr mewn cydweithio i fynd i’r afael â’r cwestiynau hyn. Mae atebion yn cael eu nodi a’u profi, yn seiliedig ar sut mae pobl yn cyrraedd Eryri, sut maen nhw’n symud o gwmpas wedi cyrraedd, beth maen nhw’n dewis ei wneud a faint o wybodaeth sydd ganddyn nhw a faint maen nhw wedi paratoi er mwyn ymweld yn ddiogel, yn gyfrifol ac yn barchus.

Fodd bynnag, yr eiliad hon, rydym yn helpu i arwain yr ymateb i bwysau drwy gyfrwng y rhaglen Caru Eryri. Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr hyfforddedig yn cynnal hyd at ddeg sesiwn yr wythnos drwy gydol y tymor – yn darparu timau i ofalu am y safleoedd prysuraf a’r rhai sydd o dan fwyaf o bwysau yng ngogledd a de Eryri. Mae’r timau yma’n darparu gallu ychwanegol sy’n cyd-fynd â gwaith wardeniaid y Parc Cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol; mae’r timau’n darparu gwybodaeth i ymwelwyr ac yn eu helpu i ymweld yn ddiogel ac yn gyfrifol; maen nhw’n casglu sbwriel ac yn helpu i gynnal llwybrau.

Ers Ebrill mae dros 200 o bobl wedi dod ymlaen i wirfoddoli ac wedi darparu 1500 awr o’u hamser i gynorthwyo. Gyda’i gilydd maen nhw wedi casglu dros dri chwarter tunnell o sbwriel. Cyfrannwyd mewnbwn enfawr o amser staff gan y pedwar corff sy’n darparu Caru Eryri: Cymdeithas Eryri, Partneriaeth Awyr Agored, Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Sut allwch chi helpu

Elusen fechan yw Cymdeithas Eryri sydd â dylanwad fawr ledled y Parc Cenedlaethol; y dystiolaeth yw ein gwaith o arwain y cynllun Caru Eryri gyda phartneriaid a gwirfoddolwyr eleni. Mae sylw gan y cyfryngau yn helpu i ledaenu ein negeseuon pwysig am ymweld â lleoliadau arbennig mewn modd cyfrifol, ond cefnogaeth aelodau a chyfraniadau sy’n ein helpu i gwblhau ein gwaith ymarferol.

Dyma lle allwch chi helpu: gallwch ystyried gwneud cyfraniad tuag at waith ein staff a’n gwirfoddolwyr, neu ein helpu i ddatblygu fel corff drwy ymaelodi ac annog eraill i wneud yr un fath. Dyma un peth y gallwch ei wneud sy’n gwneud gwir wahaniaeth, felly cofiwch gyfrannu neu ymaelodi ar-lein drwy heddiw a’n helpu i wireddu hyd yn oed mwy. Diolch i chi!

Comments are closed.