Cael ysgrifennu’ch ewyllus am ddim

Trwy gymryd mantais ar ‘Free Wills Month’ neu ‘Will Aid’

 

Mae’r rhan fwyaf o elusennau yn y DU yn dibynnu ar gymynroddion am hyd at hanner eu hincwm – trwy gymryd rhan mewn ‘Free Wills Month‘ neu Will Aid gallech helpu Cymdeithas Eryri ac achosion teilwng eraill.

Mae mis Hydref yn ‘Free Wills Month’

Mae ‘Free Wills Month‘ yn dod a grwp o elusennau uchel ei barch at ei gilydd  i gynnig i bobl sy’n 55 oed a throsodd y cyfle i gael ysgrifennu neu ddiweddaru ewyllys yn rhad ac am ddim drwy ddefnyddio cyfreithwyr sy’n cymryd rhan yng Nghymru a Lloegr.

Er nad yw Cymdeithas Eryri yn un o’r elusennau sy’n cymryd rhan yn y scim, os ydych yn cymryd mantais ar ‘Free Wills Month’ trwy gael ysgrifennu neu ddiweddaru’ch ewyllys, gobeithio y byddwch yn dewis cofio y Gymdeithas hefyd!

Mis Tachwedd: ‘Will Aid’

Ym mis Tachwedd, beth bynnag yw eich oedran, gallwch fanteisio ar ‘Will Aid‘. Mae cyfreithiwr lleol yn ysgrifennu eich Ewyllys, yna yn lle talu eu ffi, fe’ch gwahoddir i wneud cyfraniad at elusen.

Unwaith eto, er nad yw’r Gymdeithas Eryri yn un o’r elusennau sy’n cymryd rhan, os ydych yn cymryd mantais ar ‘Will Aid‘ trwy gael ysgrifennu neu ddiweddaru’ch ewllys, gobeithio y byddwch yn dewis cofio’r Gymdeithas hefyd!

Siarad â’n harbenigydd

Os ydych ag unrhyw gwestiynnau am gymynroddion ne am dreth etifeddiant, rhowch ganiad i drefnu cael sgwrs â Judith Bellis, ein cyfrifydd, sy’n arbenigydd mewn treth etifeddiant: 01286 685498

Comments are closed.