Gweithdy: Darlunio tirlun yn Nhŷ Hyll
2-4yp,Tŷ Hyll, Betws-y-coed
Ymunwch â’r artist cyfoes Tessa Lyons mewn gweithdy darlunio am y prynhawn yn Nhŷ Hyll, lle cewch eich ysbrydoli gan y tirlun o gwmpas.
Gyda phwyslais ar ddefnyddio golosg ac inc, cynlluniwyd y gweithdy hwn i annog dull arbrofol o ddarlunio! Cost: £10 ar gyfer deunyddiau a lluniaeth.
Rhaid archebu ymlaen llaw. Cysylltwch â Claire:
claire@snowdonia-society.org.uk | 01286 685498
Cymdeithas Eryri: Gwarchod, gwella a dathlu Eryri ers 1967