Gweithdy: Cân y Fedwen Arian

Gweithdy: Cân y Fedwen Arian

2-4:30yp, Cae Mabon Eco Retreat, Fachwen

Wyddoch chi bod sudd bedw arian wedi ei echdynnu yn Sgandinafia ers cannoedd o flynyddoedd fel moddion i atgyfnerthu iechyd?

Ymunwch â ni yn y gweithdy difyr hwn yng nghoedydd Cae Mabon lle byddwn yn dysgu crefft hynafol tapio coed ac yn cyfnewid straeon o amgylch y tân wrth gadw’n gynnes.

Llefydd cyfyngedig. £10 neu am ddim i aelodau Cymdeithas Eryri. Am fwy o wybodaeth ac i fwcio lle:
E-bost: claire@snowdonia-society.org.uk / Rhif ffôn: 01286 685498