Ydych chi’n hoffi natur? A hoffech chi ddatblygu sgiliau ymarferol ym maes rheoli coetiroedd? Allwch chi sbario ychydig o oriau bob mis?
Yna dewch i gyfranogi yn un o’n diwrnodau gwaith misol yng nghoetir 5 erw delfrydol Tŷ Hyll!
Pa un ai a hoffech chi helpu â’n harolygon o adar neu atgyweirio a chynnal a chadw llwybrau troed, mae gennym ni ddigonedd o dasgu ymarferol sydd angen eu gwneud trwy gydol y flwyddyn.
Ionawr 31. Dysgwch sut i brysgoedio coed cyll. Bydd y diwrnod gwaith yn y goetir y mis hwn yn cynnwys hyfforddiant ynghylch y dechneg hynafol o brysgoedio. Dysgwch am y cynhyrchion y gellir eu creu trwy brysgoedio, sut mae’n llesol i fywyd gwyllt, a sut i’w wneud.
Os hoffech chi fynychu diwrnod gwaith y mis hwn, cysylltwch â Tamsin:
tamsin@snowdonia-society.org.uk
01286 685498