Sgwrs: Trysorau de Eryri
7-8yp, ar-lein dros Zoom
*Sgwrs iaith Gymraeg*
Mae ym Mharc Cenedlaethol Eryri nifer o gynefinoedd trawiadol lle ceir cymunedau diddorol o greaduriaid a phlanhigion. Amhosib cwmpasu’r cyfan, felly dyma noson i godi cwr y llen yn unig ar ychydig o’r cyfoeth natur hwnnw yn ne y parc, a sôn am yr her ddiweddaraf o ail greu gweirglodd wrth droed Cader Idris.
Gan Rhys Gwynn, Warden Ardal (De) ym Mharc Cenedlaethol Eryri gyda chyfle am gwestiynau ar y diwedd.
Rhaid archebu lle ymlaen llaw
I fwcio lle ac i dderbyn y linc ymuno, cysylltwch â’n Swyddog Ymgysylltu Claire:
claire@snowdonia-society.org.uk | 07823 493064
Cefnogwch ein gwaith
Ymaelodwch am fynediad am ddim i’n rhaglen o ddigwyddiadau eleni neu rhowch ar lein i ddangos eich cefnogaeth dros Eryri.
Llun: Tormaen porffor, gan Rhys Gwynn