Taith: Mordwyo tu hwnt i’r llwybr troed

Taith: Mordwyo tu hwnt i’r llwybr troed

Llynnau Cregennen, Arthog, 10:00 – 16:00

Ymunwch â Mike Raine  am weithdy un-diwrnod sydd â’r nod o ddatblygu eich medrau darllen map a mordwyo. Dewch â map OS Explorer rhif 23 a’ch cwmpawd.

Byddwn yn crwydro oddi ar y llwybrau felly dylech fod yn barod am dirwedd garw, gwlyb o bosib, o dan draed.

Gyda diolch i Raglen Cronfa Grant Cymunedol y Grid Cenedlaethol.

Lefel ffitrwydd – heriol

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.

gift-aid-logo
Os ydych yn talu treth incwm y DU, mae Rhodd Cymorth yn cynyddu gwerth eich roddion a tanysgrifiadau gan 25%, heb gostio ceiniog i chi. Cofiwch roi tic yn y blwch Rhodd Cymorth.