Taith: Blodau Gwyllt Hynafol Dolgellau

Taith: Blodau Gwyllt Hynafol Dolgellau

11yb-3yp, Llyn Gwernan, Dolgellau

Taith pedair-milltir i edrych ar flodau gwyllt hynafol y ffermdir. Bydd Rhys Gwynn, Warden de Eryri y Parc Cenedlaethol, yn rhannu ei wybodaeth am flodau gwyllt a’r farddoniaeth yn eu henwau gwerin Cymreig.

Dewch â phecyn cinio i fwynhau picnic mewn dôl sy’n llawn o degeirianau. Rhaid archebu lle.

Cysylltwch â’n Swyddog Ymgysylltu Claire i archebu lle:
07823 493064 | claire@snowdonia-society.org.uk