Taith gerdded: Crwydro Coetir Anian
11yb-1yp. Glaspwll, ger Machynlleth
Project adfer cynefin yw Coetir Anian yn ucheldir canolbarth Cymru ger afon Dyfi a’r môr.
Dyma leoliad a phroject – adfer cynefinoedd a rhywogaethau’r dirwedd hon a rhoi profiadau dwys o fyd natur i bobl mewn lleoliad gwyllt. Ymunwch ag ymddiriedolwr y project Mat Mitchell ar daith gerdded i ddysgu sut mae’r tir yn cael ei adfer gyda chymorth Llywodraeth Cymru a cheffylau Konik gwyllt.
Rhaid bwcio ymlaen llaw:
E-bost i: claire@snowdonia-society.org.uk i gofrestru. Am ddim i aelodau Cymdeithas Eryri neu £10 i’r rhai sydd ddim yn aelod.