Wythnos o weithgareddau gwahanol i wirfoddolwyr yn y Parc Cenedlaethol. Cludiant am ddim o Fangor a Chaernarfon.
Dydd Llun: Canolfan Cadwraeth Pensychnant, Conwy. Byddwn ni’n cynorthwyo i gynnal a chadw’r llecyn gwledig hyfryd hwn – cynnal terfynau i gadw anifeiliaid sy’n pori yn eu llefydd priodol.
Dydd Mawrth: Gwaith ar Lwybr Troed Lôn Gwyrfai. Lôn Gwyrfai yw un o lwybrau troed mwyaf newydd Eryri ac mae’n prysur ddod yn boblogaidd ymhlith teuluoedd. Bydd ein gwaith yn cynnal y rhan wych hon o’r llwybr yn cyfrannu’n sylweddol at gynyddu ei boblogrwydd.
Dydd Mercher: Casglu Sbwriel ar yr Wyddfa Mae cyfanswm y sbwriel ar yr Wyddfa wedi lleihau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ond nid yw’r gwaith wedi’i orffen eto. Dewch i’n helpu i glirio un o lwybrau troed mwyaf poblogaidd Cymru wrth i ni daclo’r sbwriel o amgylch Llyn Glaslyn, 600m uwchlaw lefel y môr.
Dydd Iau: Gwaith yng Nghoetir Abergwyngregyn. Byddwn yn cynnig help llaw yng Ngwarchodfa Natur Abergwyngregyn wrth i ni helpu i reoli coed conwydd rhag lledaenu ac amddiffyn y llecyn i helpu i’n coed llydanddail cynhenid ffynnu.
Dydd Gwener. Gwaith mewn coetir gyda’r Ymddiriedolaeth Coedlannau. Byddwn yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Coedlannau yn Felinrhyd a Llennyrch, eu coedwig law Geltaidd odidog.Dewch i gynnig help llaw yn ystod diwrnod o waith mewn coetir.
Daliwch sylw: rhoddir blaenoriaeth i’r sawl a all ymroddi i’r wythnoa gyfan.
Rhaid archebu lle:
mary-kate@snowdonia-society.org.uk
01286 685498