Gwirfoddoli: Diwrnod Tŷ Hyll

Gwirfoddoli: Diwrnod Tŷ Hyll

10:00 – 15:00, Tŷ Hyll, Rhwng Betws y Coed a Capel Curig

Hoffech chi faeddu eich dwylo wrth gyflawni gwaith cadwraeth ymarferol mewn gardd a choedlan a reolir ar gyfer bywyd gwyllt?

Ymunwch â ni yn Nhŷ Hyll hyfryd gyda’i gardd sy’n toddi’n naturiol i’r goedlan o’i chwmpas. Gallai’r tasgau gynnwys chwynnu, swyddi cynnal a chadw neu glirio llwybrau.

Mae’r dyddiau gwirfoddoli yn digwydd, fel arfer, unwaith y mis.

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.