Gwirfoddoli: Gofal coed

Gwirfoddoli: Gofal coed

10:00 – 15:00, Meithrinfa goed Hafod Garegog, Beddgelert

Gerllaw nyth enwog y gweilch Glaslyn, mae meithrinfa goed yr Ymddiriedolaeth GenedlaetholHafod Garegog.

Mae miloedd o hadau lleol yn cael eu casglu, eu potio a’u tyfu ar y safle hwn cyn cael eu plannu o amgylch Eryri. Ymunwch â ni a helpwch i ofalu am y feithrinfa goed a choetir ifanc a blannwyd yma.

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.