Gwirfoddoli: Gofal Coed

10:00 – 15:00, Hafod Garegog, Beddgelert

Dewch draw i helpu’r coed ifanc yma wrth i ni roi hwb iddyn nhw mewn cyfnod hanfodol o’u tyfiant.

Plannwyd yr eginblanhigion yma yn ddiweddar, a byddwn yn parhau i ofalu amdanyn nhw drwy glirio chwyn a fyddai’n cystadlu â nhw. Ymunwch â ni ym meithrinfa goed Hafod Garegog wardeniaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn helpu’r coed yma i ffynnu wrth iddyn nhw dyfu.

Wedi eu tyfu o hadau a gasglwyd o fewn ychydig filltiroedd i’r feithrinfa goed, bydd y coed ifanc yma cyn bo hir yn ymuno â’r rhwydwaith o goed sydd yn y cwm yn barod.

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.