Gwirfoddoli: Garddio yn Eglwys St Julitta

Gwirfoddoli: Garddio yn Eglwys St Julitta

10:00 – 15:00, Capel Curig

Mae’n bosib bod eglwys St Julitta, a roddodd ei henw i bentref Capel Curig, yw’r eglwys hynaf yn Eryri!

Mae’r fynwent yn hafan i bryfed ac adar, ac fe’i rheolir gan gadw bywyd gwyllt mewn cof.

Dewch i’n helpu ni i gynnal a chadw’r fynwent, dysgu ychydig o hanes lleol a mwynhau ei lleoliad tawel ym mlaen dyffryn Dyffryn Mymbyr.

Nid oes angen profiad garddio.

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.