Gwirfoddoli: Torri Rhedyn

Gwirfoddoli: Torri Rhedyn

10:00 – 15:00, Abergwyngregyn

Dewch i ddysgu am hanes cudd y gwarchodfa natur hardd Coedydd Aber hefo archeolegydd Awdurdod Parc Cenedlaethol John Roberts.

Mae’r dyddiau gweithgaredd yma yn gyfle i ddarganfod mwy am GNG Coedydd Aber wrth helpu i fynd i’r afael â phroblem tyfiant prysgwydd ymledol a all niweidio gweddillion archeolegol.

Mae croeso i gyfranogwyr ymuno ar un neu ddwy o’r sesiynau hyn

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.

  • 01 Gorf, 22
    Caru Eryri: Llwybr Llanberis, Yr Wyddfa

    Llanberis Path, Snowdon

    Ymunwch a thîm Caru Eryri wrth i ni reoli sbwriel a chefnogi’r gymuned leol Llanberis a darparu gwybodaeth ac arweiniad i ymwelwyr ar y llwybr a’r pentref.

  • 01 Gorf, 22
    Caru Eryri: Ogwen

    Ogwen

    Ymunwch a thîm Caru Eryri wrth i ni reoli sbwriel a chefnogi’r gymuned leol a darparu gwybodaeth ac arweiniad i ymwelwyr ar y llwybr.

  • 02 Gorf, 22
    Caru Eryri: Rhyd Ddu, Cwellyn

    Rhyd Ddu

    Ymunwch a thîm Caru Eryri wrth i ni reoli sbwriel a chefnogi’r gymuned leol drwy darparu gwybodaeth ac arweiniad i ymwelwyr.