Gwirfoddoli: Torri Rhedyn
10:00 – 15:00, Abergwyngregyn
Dewch i ddysgu am hanes cudd y gwarchodfa natur hardd Coedydd Aber hefo archeolegydd Awdurdod Parc Cenedlaethol John Roberts.
Mae’r dyddiau gweithgaredd yma yn gyfle i ddarganfod mwy am GNG Coedydd Aber wrth helpu i fynd i’r afael â phroblem tyfiant prysgwydd ymledol a all niweidio gweddillion archeolegol.
Mae croeso i gyfranogwyr ymuno ar un neu ddwy o’r sesiynau hyn
Rhaid bwcio ymlaen llaw:
Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.
Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.