Gwirfoddoli: Adeiladau blychau fel cartrefi i adar ac ystlumod
09:45 – 15:00, Maentwrog
Oes gennych chi awydd rhoi cynnig ar waith coed? Pam na wnewch chi roi cynnig arni o dan arweiniad medrus Kehoe Countryside; ac adeiladu cartrefi y mae mawr eu hangen ar adar ac ystlumod?!
Yn ogystal â bod yn ddiwrnod ymarferol llawn hwyl, lleolir y gweithgaredd yma mewn lleoliad hardd ac anghysbell. Saif meddiant Coed Cadw ar gwr y Rhinogydd, ac mae’n edrych i lawr ar goedwig law Geltaidd Felenrhyd isod!
Dewch draw i fwynhau ardal newydd, dysgu medr o’r newydd, a rhoi’n ôl i fyd natur.
Rhaid bwcio ymlaen llaw:
Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.
Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.