Gwirfoddoli: Brwydro Jac-y-Neidiwr

Gwirfoddoli: Brwydro Jac-y-Neidiwr

Ymunwch â ni wrth i ni weithio i ddod i’r afael â’r ymosodwr pinc (Jac y Neidiwr) fel rhan o Gynllun Tirwedd y Carneddau.

Mae Jac y Neidiwr yn blanhigyn ymledol, estron sy’n mygu planhigion eraill ac sy’n arwain at golled planhigion cynhenid. Gall hefyd arwain at erydu ochrau afonydd.

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.