Dydd Llun 3 – dydd Gwener 7 Mehefin, ledled Eryri
Mae’r wythnos i wirfoddolwyr yn ei hôl! Ymunwch â Chymdeithas Eryri am wythnos o weithgareddau cadwraeth amrywiol yn Eryri. Wrth gymryd rhan, cwblhewch ein uned sgiliau cadwraeth ymarferol a achredir gan Agored Cymru am DDIM – cyfle gwych i arddangos eich medrau i gyflogwyr posib.
Dydd Llun 3 Mehefin: Arolwg ymlusgiaid a rheolaeth cynefin mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.
Dydd Mawrth 4 Mehefin: Cynnal a chadw llwybrau mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dydd Mercher 5 Mehefin: Clirio jac-y-neidiwr mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Dydd Iau 6 Mehefin: Gwneud Giatiau Pren Hollt ac Adeiladu Toiled Compost mewn partneriaeth â Choed Cadw.
Dydd Gwener 7 Mehefin: Casglu sbwriel ar Yr Wyddfa – Digwyddiad poblogaidd bob amser mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Bydd cludiant am ddim ar gael bob dydd o Fangor a Chaernarfon.
Felly, dewch i roi cynnig arni a gwneud eich rhan dros Eryri!
Ychydig o leoedd sydd ar gael. Daliwch sylw: rhoddir blaenoriaeth i’r sawl a all ymroddi i’r wythnoa gyfan.
Rhaid archebu lle:
mary-kate@snowdonia-society.org.uk
01286 685498