Trwsio Cloddiau Cerrig Sych, Conwy
Archebu lle yn hanfodol
Mae stad Pensychnant rhwng Conwy a Phenmaenmawr wedi ei rheoli’n benodol ar gyfer byd natur ers trideg mlynedd. Ers cryn amser, mae gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri wedi rhoi cymorth ymarferol ym Mhensychnant. Mae llawer o gloddiau cerrig sych, sy’n rhannu caeau a chynefinoedd amrywiol, ar y warchodfa. Maen nhw wedi goroesi yma ers cryn amser ond oherwydd eu hoedran mae angen cwblhau gwaith trwsio bob amser.
Mae warden Pensychnant yn hynod o brofiadol o ran codi cloddiau a bydd yn falch iawn o ddysgu gwirfoddolwyr nad ydyn nhw erioed wedi gwneud hyn o’r blaen. Mae ganddo hefyd gyfoeth o wybodaeth am fywyd gwyllt Pensychnant. Dylai hwn fod yn ddiwrnod llawn hwyl ac, o bosib, mwd!
O ganlyniad i ymlediad (Covid-19), y coronafeirws, gobeithiwn y byddwch yn deall y bydd o bosib yn rhaid canslo neu newid trefniadau ar fyr rybudd. Bydd ein staff yn gwneud pob ymdrech i adael i bawb sydd wedi archebu lle ar ddigwyddiad wybod. Cofiwch wirio beth ydy statws y digwyddiad ymlaen llaw drwy ffonio neu ebostio
Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07901 086850