Plannu Coed

Estynnwch am raw a dewch i leihau eich ôl-troed carbon a gwneud argraff barhaol ar y tirlun am flynyddoedd lawer i ddod wrth ymuno â ni ar y diwrnod Plannu Coed hwn!

Mae’r Gymdeithas yn dychwelyd eto eleni i fferm Llenyrch, eiddo Coed Cadw ar gwr coedwig law Geltaidd (coedlan derw’r Atlantig), coedlan sy’n un o’r mwyaf ym mherchnogaeth Coed Cadw yng Nghymru.

Trefnwyd rhan o’r gweithgaredd plannu coed yma mewn ymateb i farwolaeth llawer o’r coed ynn sydd wedi effeithio ar rai o’r coed o amgylch adeiladau’r fferm.

Yn ogystal â phlannu coed bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau eraill megis gwaith coed.

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:

dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498