Gweirgloddiau blodeuog de Eryri

Gweirgloddiau blodeuog de Eryri

10yb-1yp, ardal Dolgellau

Taith fer ar gyrion Dolgellau gyda warden APCE Rhys Gwynn, i weld gweirgloddiau blodeuog Llwyniarth, sydd yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. (Yr ‘iarth’ yn Llwyniarth yw’r ffon hir efo pig miniog oedd yn cael ei ddefnyddio i yrru ych wrth aredig yn yr oes a fu).

Mae amrywiaeth o blanhigion nodweddiadol yma, yn llygad llo bach, effros, gribell felen a thegeirianau ynghyd â’r myrdd o bryfed sy’n gysylltiedig â’r cynefin prin yma. Ac ar bob gorwel mae golygfeydd godidog o fynyddoedd de Eryri. Mae’r daith yma yn cael ei gynnal yn bennaf drwy’r iaith Gymraeg – croeso i ddysgwyr!

Rhaid cofrestru ymlaen llaw:

Mae’r daith yn siŵr o fod yn boblogaidd felly cofiwch archebu mewn da bryd. Am ddim i aelodau Cymdeithas Eryri neu £10 i’r sawl nad ydyn nhw’n aelodau. E-bostiwch claire@snowdonia-society.org.uk i archebu eich lle.