*WEDI EI OHIRIO* Sgwrs: Dodrefn Fferm Eryri

*WEDI EI OHIRIO* Sgwrs: Dodrefn Fferm Eryri

// Sylwer bod y digwyddiad hwn wedi ei ohirio hyd y penodir dyddiad pellach oherwydd lledaeniad yr haint COVID-19 / Coronavirus.  Gwyliwch y gofod hwn //

Mae gan Gymru draddodiad cyfoethog o arddulliau rhanbarthol o ran ei threftadaeth materol. Bydd y sgwrs hon, gan yr aelod Peter Colins, yn disgrifio rhywfaint o’r dodrefn sy’n gysylltiedig ag Eryri gyda phwyslais penodol ar y rhai a ddefnyddir ar gyfer arddangos a chadw. Bydd rhai hen bethau bychan hefyd yn cael eu harddangos i’w trafod, a bydd lluniaeth ar gael.

Dim angen archebu lle. Cyrraedd 7:15yh i ddechrau am 7:30yh.

Rhoddion ar y noson i’n gwaith yn gwarchod Eryri.