Casglu Sbwriel o’r Môr i’r Mynydd 3: Môr
10yb-3yp. Traeth Morfa Dyffryn, ger Harlech
Yr olaf yn ein cyfres o ddyddiau casglu sbwriel o’r Môr i’r Mynydd yn olrhain taith sbwriel o gopa’r Wyddfa i arfordir y Parc Cenedlaethol. Bydd y diwrnod yn cynnwys casglu sbwriel ar draethlin Morfa Dyffryn a sesiwn grefft ailgylchu opsiynol i weld be ellir ei greu o sbwriel. Cyfeillgar i deuluoedd, rhaid cofrestru ymlaen llaw.
Cysylltwch â Claire am fwy o wybodaeth ac i gofrestru:
claire@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
Cymdeithas Eryri: Yn gwarchod, gwella a dathlu Eryri ers 50 mlynedd.