Aelodau: Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol Cymdeithas Eryri

Aelodau: Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol Cymdeithas Eryri

10:30yb-12:30yp, *AR LEIN* drwy Zoom

Gwahoddir aelodau Cymdeithas Eryri yn gynnes i Gyfarfod Blynyddol Cyffredinol 2020 a gynhelir ar-lein drwy gyfrwng fideo gynadledda Zoom o 10.30yb hyd 12.30yp ar ddydd Sadwrn 17 Hydref. Ymunwch o’ch cartref i glywed am waith y Gymdeithas drwy gydol y flwyddyn ryfeddol hon ac i rannu eich barn gyda staff ac ymddiriedolwyr wrth i ni edrych   ymlaen.

Mae’r rhaglen yn cynnwys sgyrsiau byr a sesiwn fyw o holi ac ateb gyda dau brif unigolyn o’n cyrff sy’n bartneriaid sy’n gweithio ar ran Parc Cenedlaethol Eryri; Dr Marian Pye, Rheolwr Cynllun o Bartneriaeth Tirwedd y Carneddau a Simon Rogers, Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Rhaid cofrestru ymlaen llaw. Cofrestrwch ar lein yma neu cysylltwch â’n Swyddog Ymgysylltu Claire am gymorth:
07823 493064 | claire@snowdonia-society.org.uk

Rhaglen:

10:00 – Agor y cyfnod arwyddo i mewn (caniatéwch amser i baratoi ar gyfer cychwyn am 10.30yb)
10:30 – Busnes ffurfiol y CBC
1. Ymddiheuriadau
2. (i) Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol 2019
(ii) Materion yn codi o’r cofnodion hyn
3. Adroddiad y Cadeirydd – Julian Pitt
4. Adroddiad Swyddog y Project Cadwraeth – Mary-Kate Jones
5. Adroddiad y Cyfarwyddwr – John Harold
6. Adroddiad Ariannol – Judith Bellis
7. Cwestiynau i’r Cyfarwyddwr a’r Swyddogion
8. Mabwysiadu Adroddiadau a Chyfrifon
(i) Cynnig i fabwysiadu’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 30 Mehefin 2020
(ii) Cynnig i ail-benodi Bennet Brooks fel archwilwyr annibynnol cyfrifon y Gymdeithas ar gyfer 2020/2019.
9. Ethol Swyddogion ac Aelodau’r Pwyllgor Gwaith:
Llywydd: Roger Thomas
Is-lywyddion: Ei Anrhydedd Huw Morgan Daniel CVO
KStJ, David Firth, Syr Simon Jenkins, Dr Morag McGrath
Cadeirydd: Julian Pitt | Is-gadeirydd: gwag
Ymddiriedolwyr: David Archer, Sue Beaumont, Richard Brunstrom, Dr Jacob Buis, Bob Lowe, Denis McAteer,
Richard Neale, Jane Parry-Evans, Mathew Teasdale.
10. Unrhyw Fusnes Arall a dyddiad CBC 2021
11:30 – Egwyl
11:50 – Siaradwr Gwadd: Dr. Marian Pye
12:10 – Siaradwr Gwadd: Simon Rogers
12:30 – Diwedd

Cofrestrwch ar lein rŵan