Gofal Egin-goed

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyda chymorth gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri, wedi bod yn plannu coed ifanc ar eu fferm fynydd Dyffryn Mymbyr dros yr ychydig o aeafau diwedd. Mae Dyffryn Mymbyr yn lle arbennig yn hanes Cymdeithas Eryri: dyma lle’r oedd sylfaenydd y gymdeithas, Esme Kirby, yn byw ac yn ffermio a dyma lle oedd ein pencadlys am rai blynyddoedd.

Mae coed llydanddail brodorol wedi eu plannu ar y llethrau i gynyddu’r nifer o goed ar dir eithaf agored. Maen nhw’n hynod o bwysig i adar a phryfed yn ogystal ag ar gyfer ocsigeneiddio a sefydlogi’r pridd. Byddwn yn gwneud y gwaith hanfodol o archwilio’r coed ifanc a gwneud rhywfaint o waith arnyn nhw lle bydd angen hynny.

Fe ddylech fod yn ymwybodol bod y ddaear yn anwastad ac y byddwn yn gweithio ar ochrau glannau afon ond, os bydd yr awyr yn glir, cawn olygfeydd gwych o’r Wyddfa!

Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
 mary@snowdonia-society.org.uk
 01286 685498