Rheoli dolydd blodau gwyllt

Rheoli dolydd blodau gwyllt, Cae Tan y Bwlch

Archebu lle yn hanfodol

Cymerwch gam yn ôl mewn amser wrth i ni ymweld â Chae Tan y Bwlch, safle sydd wedi dianc rhag pwysau arferion ffermio modern sydd bellach yn dominyddu llawer o’n tirwedd. Y diffyg aflonyddwch hwn sydd wedi caniatáu i fywyd gwyllt yma ffynnu a pham ei fod yn cael ei gydnabod fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, byddwn yn ymgymryd â thasgau amrywiol ar y safle gan gynnwys trochi rhedyn a thrwsio ffensys i gadw’r safle hwn ar ei orau.

Mae hwn yn gyfle gwych i weld rhai tegeirianau gwych sydd gan y safle i gynnig!

O ganlyniad i ymlediad (Covid-19), y coronafeirws, gobeithiwn y byddwch yn deall y bydd o bosib yn rhaid canslo neu newid trefniadau ar fyr rybudd. Bydd ein staff yn gwneud pob ymdrech i adael i bawb sydd wedi archebu lle ar ddigwyddiad wybod. Cofiwch wirio beth ydy statws y digwyddiad ymlaen llaw drwy ffonio neu ebostio

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498