Plannu mes (YN LLAWN)

Plannu Mes, Nantmor

Archebu lle yn hanfodol; llefydd yn cyfyngedig

Casglwyd miloedd o bosib o fes gan wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yr hydref hwn ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Casglwyd hefyd nifer llai o gnau a hadau o goed eraill, megis y gastanwydden bêr, gwern, masarn a choeden afalau surion. Os ydych chi wedi sylwi ar y mes toreithiog eleni byddwch wedi dyfalu bod mwy o fes wedi eu casglu na dim arall. Mae cannoedd a mwy o fes wedi eu storio ac maen nhw’n aros i gael eu plannu. Allwch chi ein helpu?

Oherwydd y tywydd, byddwn yn gweithio dan do yn bennaf ym meithrinfa goed newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol rhwng Beddgelert a Phenrhyndeudraeth. Bydd yr holl goed a dyfir yma, i gyd o hadau lleol, yn cael eu plannu mewn gwahanol leoliadau yn ôl cynlluniau rheolaeth tir lleol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros gadwraeth. Mi fyddan nhw’n rhoi hwb sylweddol i fyd natur, yn enwedig yn y cyfnod hwn sy’n gweld ein coed ynn yn marw. Dewch i gymryd rhan yn nyddiau cynnar y feithrinfa.

Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg coronafeirws i’n galluogi i roi’r orchwyl hwn ar waith mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, rydym wedi cyfyngu ar y nifer o wirfoddolwyr ar y diwrnod hwn. Cofiwch archebu’n fuan rhag ofn i chi gael eich siomi.

Cysylltwch a Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk