*WEDI EI OHIRIO* Plannu Coed

Plannu Coed, Nantmor

Archebu lle yn hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Ymunwch â ni i fod yn rhan o’r Project Coedwig Law Geltaidd, project i warchod ein coedwigoedd glaw yma yng Nghymru. Yn y gorffennol, bu’r Gymdeithas yn cymryd rhan yn bennaf gyda rheoli’r rhywogaeth ymledol Rhododendron ponticum; fodd bynnag, y nod y diwrnod yma yw ehangu’r arwynebedd o goedlan yn y rhanbarth hon o Feirionnydd drwy blannu coed brodorol.

Mae’r ardal y byddwn yn ei phlannu’r diwrnod hwn yn Ardal Gadwraeth Arbennig ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a ddynodwyd am ei bryoffytau bregus sy’n brin yn genedlaethol a’i chlwydfannau ystlumod pedol lleiaf.
Ar hyn o bryd, mae’r DU yn un o wledydd lleiaf coediog Ewrop. Os ydym am fynd i’r afael go iawn â newid hinsawdd yna mae cynyddu’r nifer o goed yn debygol o chwarae rhan allweddol.

Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg ar gyfer coronafeirws i’n galluogi i roi gwaith ymarferol awyr agored ar waith mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cynnal pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, cyfyngir yn arw ar y nifer o wirfoddolwyr ar bob diwrnod gwaith. Cofiwch archebu’n gynnar rhag i chi gael eich siomi.

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk