*WEDI EI OHIRIO* Plannu Coed

Plannu coed, Ysbyty Ifan

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Fferm fynydd yw Tŷ Nant Eidda gyda’i phraidd ei hun o ddefaid Mynydd Cymreig sy’n pori eu cynefin ar y Migneint yn ystod misoedd yr haf. (Ardal o orgors yn sir Conwy yw’r Migneint sy’n bwysig yn rhyngwladol am ei fawn a’r carbon sy’n cael ei gynnal ynddo.) Y bwriad yw plannu coed ar ambell i ddarn o dir Tŷ Nant Eidda gerllaw’r afon Eidda, er mwyn cynyddu’r gorchudd coed a’r amrywiaeth ar y fferm yn ogystal â darparu mwy o loches i dda byw.

Mae’r plannu coed yn rhan o broject ehangach gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, perchennog y fferm sy’n rhan o’u stad yn Ysbyty Ifan. Nod project Dalgylch y Conwy Uchaf yw lleihau llifogydd i lawr yr afon – problem fawr yn sir Conwy – a gwella iechyd afon Conwy a’i his-afonydd. Eisoes gwelwyd arwyddion o lwyddiant. Ewch i’w gwefan i ddysgu mwy.

Mae dros hanner cant o ffermydd bach traddodiadol o amgylch pentref Ysbyty Ifan, sydd ei hun yn llawn hanes, felly byddwch yn plannu coed mewn rhan arbennig iawn o’r wlad.

Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg coronafeirws i’n galluogi i roi gwaith awyr agored ymarferol ar waith mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, rydym wedi cyfyngu ar y nifer o wirfoddolwyr ar y diwrnod hwn. Cofiwch archebu’n fuan rhag ofn i chi gael eich siomi.

Cysylltwch a Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07990 703091