*WEDI EI OHIRIO* Plannu Coed

Plannu Coed, Cwm Penmachno

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Fferm fechan yng Nghwm Penmachno yw Ysgwyfraith, oddeutu dwy filltir o’r A5. Mae arwynebedd o ffridd ar y fferm a byddwn yn plannu coed yma i gynyddu’r gorchudd o goed. Eisoes mae coed derw arbennig ar y fferm ac yn y gwanwyn gwelir yma boblogaethau da o wybedogion mannog.

Mae’r plannu coed yn rhan o broject ehangach gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, perchennog y fferm a’r ardal o’i chwmpas. Nod project Dalgylch y Conwy Uchaf yw lleihau llifogydd i lawr yr afon – problem fawr yn sir Conwy – a gwella iechyd afon Conwy a’i his-afonydd. Eisoes gwelwyd arwyddion o lwyddiant. Ewch i’w gwefan i ddysgu mwy.

Bydd y coed y byddwch yn eu plannu yn Ysgwyfraith yn cynyddu’r cynefin ar gyfer pryfed ac adar ac yn storio carbon, yn ogystal â sicrhau buddion i’r nentydd a’r afon.

Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg coronafeirws i’n galluogi i roi gwaith awyr agored ymarferol ar waith mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, rydym wedi cyfyngu ar y nifer o wirfoddolwyr ar y diwrnod hwn. Cofiwch archebu’n fuan rhag ofn i chi gael eich siomi.

Cysylltwch a Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07990 703091