*WEDI EI OHIRIO* Plannu Coed

Plannu Coed, Nebo

Archebu lle yn hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Ewch i nôl eich rhaw er mwyn gwneud argraff barhaol ar y tirlun am flynyddoedd lawer i ddod!
Mae’r tymor plannu coed wedi hen gychwyn, felly ymunwch â ni yn ystod y cyfnod plannu byr hwn wrth i ni gynorthwyo Awdurdod y Parc Cenedlaethol i blannu coedlan newydd yn Nebo.

Ar hyn o bryd, mae’r DU yn un o wledydd lleiaf coediog Ewrop. Os ydym am fynd i’r afael go iawn â newid hinsawdd yna mae cynyddu’r nifer o goed yn debygol o chwarae rhan allweddol.

Bydd y goedlan newydd hon yn helpu i liniaru newid hinsawdd yn ogystal â bod o fudd enfawr i fywyd gwyllt lleol.

Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg ar gyfer coronafeirws i’n galluogi i roi gwaith ymarferol awyr agored ar waith mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cynnal pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, cyfyngir yn arw ar y nifer o wirfoddolwyr ar bob diwrnod gwaith. Cofiwch archebu’n gynnar rhag i chi gael eich siomi.

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk