*WEDI EI OHIRIO* Plannu Coed

Plannu Coed, Llechwedd

Archebu lle yn hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Yn hoff o’r Carneddau? Ymunwch â ni i fod yn rhan o’r rhaglen Bartneriaeth Tirlun uchelgeisiol hon. Bydd y project yn cydlynu gwaith i warchod, gwella a dathlu rhywfaint o ddiwylliant naturiol a diwylliannol cyfoethog ond bregus mynyddoedd y Carneddau.

Mae’r tymor plannu coed wedi hen gychwyn, felly ymunwch â ni wrth i ni ddychwelyd i’r bryniau uwchben Conwy i barhau i blannu’r goedlan frodorol newydd hon ar gwr coedlan sy’n bodoli eisoes ym Mharc Mawr.
Bydd gan y goedlan hon amryw o fuddion yn cynnwys cynyddu’r gorchudd coed drwyddo draw yng Nghymru sydd, ar hyn o bryd, yn un o wledydd lleiaf coediog Ewrop. Os ydym am fynd i’r afael o ddifrif â newid hinsawdd yna mae cynyddu’r nifer o goed yn debygol o chwarae rôl allweddol.

Bydd y goedlan newydd hon yn helpu i liniaru yn erbyn newid hinsawdd yn ogystal â sicrhau buddion enfawr i fywyd gwyllt yr ardal.

Felly, estynnwch eich rhaw a dewch i wneud argraff barhaol ar y tirlun am flynyddoedd lawer i ddod!
Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg ar gyfer coronafeirws i’n galluogi i roi gwaith ymarferol awyr agored ar waith mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cynnal pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, cyfyngir yn arw ar y nifer o wirfoddolwyr ar bob diwrnod gwaith. Cofiwch archebu’n gynnar rhag i chi gael eich siomi.

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk