*WEDI EI OHIRIO* Plannu Coed

Plannu coed, Beddgelert

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Ar y diwrnod gwaith hwn cewch gyfle i alw heibio meithrinfa goed wardeniaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar eu gwarchodfa natur yn Hafod Garegog, i’r de o Feddgelert.

Ni fydd y coed ifanc sy’n tyfu o hadau lleol yn barod i’w plannu am rhyw ddwy flynedd arall, ond mae’r coed y byddwn yn eu plannu yn y cae drws nesaf i’r feithrinfa wedi eu tyfu gan dyfwr lleol. Wrth i’r coed y byddwch chi’n eu plannu yma dyfu, mi fyddan nhw’n creu mwy o orchudd coed yn y dyffryn ac yn gwella’r cynefin a bioamrywiaeth y bywyd gwyllt. Mae coed yn sicrhau llu o fuddion eraill i’r tir yn cynnwys lliniaru llifogydd a storio carbon.

Does dim angen profiad!

Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg coronafeirws i’n galluogi i roi gwaith awyr agored ymarferol ar waith mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, rydym wedi cyfyngu ar y nifer o wirfoddolwyr ar y diwrnod hwn. Cofiwch archebu’n fuan rhag ofn i chi gael eich siomi.

Cysylltwch a Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07990 703091