Plannu Coed, Llechwedd
Mae archebu lle yn hanfodol; nifer cyfyngedig o lefydd.
Caru’r Carneddau? Ymunwch â ni i fod yn rhan o’r cynllun Partneriaeth Tirwedd uchelgeisiol hon. Bydd y cynllun yn helpu cydlynu gwaith i warchod, gwella a dathlu treftadaeth naturiol a diwylliannol cyfoethog ond bregus mynyddoedd y Carneddau.
Ar y diwrnod yma i wirfoddolwyr rydym yn bwriadu plannu tua 500 o goed i greu coedwig frodorol newydd wrth ymyl coedwig Parc Mawr sy’n bodoli eisoes.
Bydd y goedwig hon yn sicrhau amryw o fuddion, gan gynnwys cynyddu gorchudd coed yng Nghymru sydd ar hyn o bryd ymysg y gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop. Os mai gweithredu o ddifrif yn erbyn newid hinsawdd yw ein dymuniad, yna mae cynyddu’r nifer o goed yn debygol o chwarae rhan rhan allweddol.
Bydd y goedwig newydd hon yn helpu nid yn unig i helpu yn erbyn newid hinsawdd ond
hefyd am greu buddion enfawr i fywyd gwyllt yr ardal.
Felly dewch draw efo’ch rhaw i wneud argraff barhaol ar y dirwedd am flynyddoedd lawer i ddod!
Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg ar gyfer y coronafeirws sy’n ein galluogi i gyflawni gwaith ymarferol awyr agored mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael gwybodaeth bellach am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, cyfyngir yn llym ar y nifer o wirfoddolwyr ar gyfer pob diwrnod gwaith. Cofiwch archebu lle’n gynnar i osgoi cael eich siomi!
Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk