Plannu coed (YN LLAWN)

Plannu Coed, Capel Curig

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Mae’r flwyddyn yn hedfan heibio ac mae’r tymor plannu coed wedi cyrraedd. Mae safle gwersylla a fferm yn Nyffryn Ogwen, ger Tryfan, yn awyddus i blannu coed ar y tir er budd bywyd gwyllt. Byddwn yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a bydd hyn yn rhan o’u prosiect Dalgylch Uwch Conwy, y gallwch ddarllen amdano ar eu gwefan.

Mae’r coed i gyd wedi eu tyfu o hadau lleol sy’n golygu y byddan nhw’n ffynnu yn yr hinsawdd lleol, os y cânt eu plannu’n dda! Ymunwch â ni am waith gwerth chweil rhwng mynyddoedd drawiadol y Carneddau a’r Glyderau ar y naill ochr.

Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg coronafeirws i’n galluogi i roi gwaith awyr agored ymarferol ar waith mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, rydym wedi cyfyngu ar y nifer o wirfoddolwyr ar y diwrnod hwn. Cofiwch archebu’n fuan rhag ofn i chi gael eich siomi.

Cysylltwch a Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07990 703091