Plannu Coed

Plannu Coed, Penmachno

Archebu lle yn hanfodol

Dewch i gymryd rhan gyda gwaith plannu coed collddail brodorol mewn coedwig sy’n cynnwys coed conifferaidd yn bennaf. Mae’n dda plannu coed bob amser gan eu bod yn darparu cynefin ar gyfer llu o rywogaethau, am ddegawdau lawer neu hirach, yn ogystal â bod yn fuddiol i’r tir (draeniad well a sefydlogi pridd). Yn aml, ychydig o rywogaethau a gynhelir gan goed sy’n gonifferaidd yn bennaf. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, perchnogion y safle, yn awyddus i ddatblygu coedlan mwy amrywiol ac iach fel bod y gymuned yn gallu ei mwynhau.

Mae Cwm Hafodyredwydd, rhwng Penmachno a Blaenau Ffestiniog, mewn rhan hardd o’r wlad. Os ydych wedi plannu coed o’r blaen ai peidio, rydw i’n siŵr y byddwch wedi hen ddysgu’r grefft erbyn diwedd y diwrnod!

Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
01286 685498