Plannu Coed

Plannu Coed, Nant Gwynant

Archebu lle yn hanfodol,

Cyfle i leihau eich ôl troed carbon a gwneud argraff barhaol ar y tirlun am flynyddoedd lawer i ddod!

Mae Nant Gwynant yn ardal sydd wedi ei hambygio dros y blynyddoedd gan y rhywogaeth anfrodorol ymledol Rhododendron Ponticum. Er eu bod yn ddeniadol mae’r planhigion yn tyfu’n gyflym yn mygu fflora brodorol ac yn gadael anialwch difywyd o dan y canopi trwchus.

Gan weithio mewn partneriaeth â’r SNPA a Wildlife Tryst mae’r gymdeithas wedi bod yn clirio y planhigyn hwn. Gyda chynnydd mawr wedi’i wneud dros y blynyddoedd mae llawer o safleoedd bellach yn barod i gael eu plannu gyda rhywogaethau brodorol yn adfer yr ardal hyfryd hon i goetiroedd sy’n llawn bywyd.

Rydym yn ymuno ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol i blannu coetir brodorol newydd a fydd nid yn unig yn helpu i lleihau newid yn yr hinsawdd, ond bydd hefyd yn elwa’n fawr ar fywyd gwyllt yn yr ardal.

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498