Plannu Coed

Tree Planting

Plannu Coed

Archebu lle yn hanfodol

Ymunwch â ni am ddiwrnod o blannu coed ar gyrion Llanrwst. Byddwn yn ymuno ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i helpu i dyfu adran newydd o goedlan lydanddail frodorol. Mae cymaint o’n dyddiau gwirfoddoli yn ymwneud â chlirio pethau o’r parc cenedlaethol megis rhywogaethau ymledol neu sbwriel, felly oni fyddai’n braf rhoi rhywbeth yn ôl? Felly, dewch i afael mewn rhaw a lleihau eich ôl-troed carbon drwy roi rhywbeth yn ôl i Eryri, man sy’n agos at galon pob un ohonom.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498