Plannu Coed

Plannu Coed

Archebu lle yn hanfodol

Yn ystod gaeafau diweddar, mae ein gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio’n galed yn clirio hen blanhigfa goed 7.4 hectar, ac yn ei lle, yn creu coetir coed llydanddail cynhenid yn cynnwys coed derw, criafol, drain gwynion, helyg a gwern. Mae digonedd o waith plannu i’w wneud, a byddwn yn gwylio am Rododendron yn ymledu. Felly chwiliwch am raw ac ewch ati i leihau eich ôl troed carbon trwy roi rhywbeth yn ôl i Eryri, lle sy’n annwyl iawn i bawb ohonom.  

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498