*WEDI EI GOHIRIO* Pladuro Rhedyn – preswylwyr Sir Conwy yn unig

*WEDI EI GOHIRIO* Pladuro Rhedyn – preswylwyr Sir Conwy yn unig

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Mae llethr arbennig yng Nghonwy sy’n ffrwydro gyda blodau cennin Pedr gwyllt Cymreig bob gwanwyn. Cafwyd arddangosfa wych y gwanwyn diwethaf diolch yn rhannol i ymdrechion i leihau twf rhedyn lle mae’r cennin Pedr yma’n tyfu. Does dim llawer o lefydd lle mae’r cennin Pedr gwyllt yma’n tyfu felly rydym yn awyddus iawn i gynnig cymorth iddyn nhw yma!

Dewch i ddysgu’r medr traddodiadol hwn o ddefnyddio pladur ac i ddysgu sut mae’r gwirfoddolwyr yn edrych ar ôl y cennin Pedr yma.

Mae gennym drefn weithio glir ac asesiadau risg ar gyfer coronafirws i’n galluogi i gyflawni gwaith awyr agored ymarferol mor ddiogel â phosibl. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. Mae dyddiau gwaith cadwraeth Conwy wedi eu dewis yn ofalus. I sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol yn bosib bob amser, cyfyngir yn llym ar y nifer o wirfoddolwyr ar gyfer pob diwrnod gwaith. Cofiwch archebu’n fuan i osgoi cael eich siomi.

Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07990 703091