Sesiwn Hyfforddiant Awyr Agored
10:00 – 16:00, Canolfan gwybodaeth Betws y Coed
Ymunwch efo ni i baratoi i wirfoddoli efo Caru Eryri!
Bydd y diwrnod awyr agored, ymarferol yma yn addas i bawb; os ydych yn wirfoddolwr newydd efo ni, neu yn brofiadol ac wedi bod yn rhan o’r cynllun yn flaenorol.
Byddwn yn disgrifio mwy am y cynllun, beth i’w ddisgwyl, awgrymiadau da ar gyfer siarad efo ymwelwyr a’u cynghori, mwy am sut mae’r Parc Cenedlaethol yn cael ei reoli a’r problemau y mae’n ei wynebu. Bydd Mike Raine yn arwain y diwrnod ac yn rhannu ei wybodaeth eang am rywogaethau a chynefinoedd arbennig.
Dewch â phecyn cinio a dillad cerdded.
Ymunwch am diwrnod ymarferol a hwyl!