Cwrs Cymorth Cyntaf Awyr Agored

09:00 – 17:00 dau ddiwrnod, Bala

Cyfle gwych ar gyfer hyfforddiant cymorth cyntaf o ansawdd uchel, yn rhad ac am ddim i’r cyntaf i’r felin!

Os hoffech gymryd rhan yn ein project Caru Eryri neu os hoffech wybod sut i ofalu am rhywun mewn argyfwng, cofiwch ystyried cymryd rhan yn y cwrs Gofal Achub Argyfwng Cymorth Cyntaf Awyr Agored yma. Cwrs dau-ddiwrnod yw hwn ac mae’n RHAID i chi fynychu’r ddau ddiwrnod i lwyddo.

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.