Gweithdy ar-lein: Sut i greu granola blodau’r eithin
11yb-1yp gyda seibiant
Mae lliw llachar a blas cnau coco ein heithin brodorol yn golygu bod y blodau yma’n ychwanegiad ardderchog i lawer o fwydydd, yn cynnwys grawnfwyd brecwast!
Ymunwch â Claire, ein swyddog ymgysylltu, ar gyfer y gweithdy ymarferol hwn i greu granola gyda blodau eithin y byddwch wedi eu casglu. Cynhelir y gweithdy drwy gyfrwng Zoom, ac anfonir y rhestr o gynhwysion yn cynnwys sut i gasglu a pharatoi’r blodau eithin ar gyfer eu cynnwys yn y rysait ymlaen llaw i’r rhai sydd am ymuno.
Rhaid bwcio ymlaen llaw:
- Os nad ydych yn aelod o Gymdeithas Eryri: mae tocynnau yn £5 drwy EventBrite cliciwch yma i fwcio
- Ar gyfer ein aelodau: Mae tocynnau yn rhad ac am ddim. Gyrrwch e-bost i claire@snowdonia-society.org.uk gan ddyfynnu eich rhif aelodaeth.