Cnoi cnau cyll! Beth rydw i wedi ei ddysgu wrth wylio’r wiwer goch

Cnoi cnau cyll! Beth rydw i wedi ei ddysgu wrth wylio’r wiwer goch

8yp, ar-lein dros Zoom.

“Eleni rydw i wedi treulio amser yn dod i adnabod poblogaeth fechan o wiwerod coch. Wedi oriau lawer o’u gwylio rydw i wedi dysgu cryn dipyn am eu bywydau. Mae’r profiad hwn wedi newid fy marn nid yn unig am wiwerod ond ynglŷn â sut a pham rydw i’n treulio amser efo byd natur.”

Ymunwch â John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, am sgwrs ar-lein am y llawenydd a gafodd wrth iddo wylio’r wiwerod coch ar riniog ei ddrws a’r goblygiadau ehangach dros werthfawrogi a gwarchod byd natur.

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

  • Os nad ydych yn aelod o Gymdeithas Eryri: mae tocynnau yn £5 drwy EventBrite cliciwch yma i fwcio
  • Ar gyfer ein aelodau: Mae tocynnau yn rhad ac am ddim. Gyrrwch e-bost i claire@snowdonia-society.org.uk gan ddyfynnu eich rhif aelodaeth.