Taith: Cennin Pedr brodorol Eryri

Taith: Cennin Pedr brodorol Eryri

10yb-3yp, Henryd, Conwy

Mae’r daith gerdded yma yn llawn

Mae’r trwmpedau melyn hardd yma’n byw’n ddistaw mewn ambell i lecyn yn y Parc Cenedlaethol. Ymunwch â ni am dro’r gwanwyn i weld y cennin Pedr yn ffynnu yn safle hanesyddol Fridd y Garreg Boeth, ac yna i fyny at grib Tal y Fan gyda’i golygfeydd godidog ar draws mynyddoedd y Carneddau.

Arweinir gan Rob Collister, gyda’r opsiwn i fynd i dafarn Y Groes ar ôl y daith am de prynhawn. Rhaid archebu lle ar y daith.

Rhaid archebu ymlaen llaw:
E-bost i: claire@snowdonia-society.org.uk i gofrestru. Am ddim i aelodau Cymdeithas Eryri neu £10 i’r rhai sydd ddim yn aelod.

Mewn partneriaeth â’r Royal Geographical Society