Aelodau: Gweithdy Torchau Nadolig ar-lein
2-4yp, dros Zoom
Ymunwch â’n swyddog ymgysylltu Claire am brynhawn braf i ddysgu sut i greu torch naturiol ar gyfer eich cartref y Nadolig hwn yn ogystal â gwella eich medrau adnabod planhigion! Cofrestrwch yn fuan a dechrau casglu’r adnoddau naturiol byddwch angen i gymryd rhan yn y gweithdy ar-lein yma.
Rhaid archebu lle. £10 neu am ddim i aelodau Cymdeithas Eryri.
Cysylltwch â Claire:
claire@snowdonia-society.org.uk | 01286 685498